Opera am fywyd Nelson Mandela yn dod i Gaerdydd

Cantorion opera Image copyright Wales Millennium Centre
Image caption Mae amser Nelson Mandela yn y carchar yn cael ei bortreadu yn yr opera

Mae opera am fywyd cyn-Arlywydd De Affrica Nelson Mandela yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yn Ewrop a hynny yng Nghaerdydd.

Mae'r 'Mandela Trilogy' yn cael ei pherfformio gan gwmni Opera Cape Town gyda cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.

Mae'r opera yn canolbwyntio ar dri amser penodol ym mywyd y gwladweinydd.

Aubrey Lodewyk sy'n chwarae rhan Mr Mandela pan oedd yn y carchar.

Mewn cyfweliad gyda BBC Radio Wales dywedodd mai'r her fwyaf oedd portreadu person byw ar y llwyfan.

"Mae portreadu person byd-enwog a'i roi mewn cymeriad ar y llwyfan yn sialens.

"Ond dwi'n gynhyrfus iawn ac mae'n mynd yn dda," dywedodd.

Fframwaith glasurol

Image copyright Wales Millennium Centre
Image caption Un o olygfeydd yr opera

Cafodd yr opera, sydd wedi ei hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Michael Williams, ei pherfformio am y tro cyntaf yn Ne Affrica yn 2010.

Mae'r opera yn defnyddio gwahanol fathau o gerddoriaeth gan gynnwys caneuon traddodiadol Xhosa a melodïau jazz.

Maen nhw wedi eu gosod mewn fframwaith glasurol sy'n dilyn y gwleidydd o fod yn ddyn ifanc hyd at gael ei ryddhau o'r carchar yn 1990.

I gyd-fynd gyda pherfformiadau'r opera mae Canolfan Mileniwm Cymru yn gofyn i bobl rannu eu hatgofion o ymweliad Mr Mandela â Chaerdydd yn 1998.

Maen nhw'n gofyn am straeon, lluniau ac atgofion o'r ymweliad pan roddwyd Rhyddfraint y Ddinas iddo.

Bydd 'Mandela Trilogy' yn cael ei pherfformio ar Fehefin 21 a 22 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.