Awema: Pennaeth yn honni bod 'yn ofalgar'

Naz Malik Image copyright BBC news grab
Image caption Naz Malik has claimed Sylvia Bobrowska concocted the allegations

Mae cyn brif weithredwr elusen lleiafrifoedd ethnig sy'n wynebu cyhuddiad o boeni cyn weithiwr yn rhywiol yn honni ei fod yn 'bennaeth gofalgar'.

Mae Naz Malik yn gwadu gwahaniaethu ar sail rhyw ac o boeni Sylvia Bobrowska.

Er ei fod wedi gwneud ambell sylw personol nid oedd yn fwriad ganddo i achosi poen, meddai, ac mae'n gwadu gafael yn ei chardigan.

Dywedodd Mr Malik bod sylwadau a wnaeth am y swyddog cyllid a gweinyddu Ms Bobrowska i fod yn rhai canmoliaethus.

Dywedodd wrth y tribiwnlys nad yw'n gwadu dweud rhai o'r pethau yr honnwyd iddo ddweud, ond nad oedd hi'n fwriad ganddo i achosi poen meddwl.

Amhriodol

Mae Ms Bobrowska, a gafodd ei diswyddo yn 2011, yn dweud iddo ymddwyn yn amhriodol tuag ati yn gyson.

Ond wrth roi tystiolaeth, dywedodd Mr Malik ei fod yn bennaeth gofalgar ac nad oedd wedi cael trafferth mewn 11 mlynedd o ddelio gyda dros 100 aelod o staff.

O'u swyddfa yn Abertawe, roedd elusen Awema yn delio gyda phobl o 150 o wledydd ac yn cefnogi pobl o leiafrifoedd ethnig.

Un honiad oedd bod merched yn swyddfa wedi cael cyfarwyddyd i neidio mynd at ddynion i ysgwyd llaw gan y byddai hynny yn gwneud iddyn nhw ymddangos yn "llac eu moesau".

Dywedodd Mr Malik ei fod wedi rhoi'r cyngor er mwyn gwneud y staff yn ymwybodol o sensitifedd diwylliannol.

Mae'n gwadu iddo ofyn i Ms Bobrowka os oedd ganddi gariad cudd, a dywedodd wrth y tribiwnlys ei fod yn ceisio rhoi sylw iddi gan ei bod wedi derbyn blodau ond doedd neb yn y swyddfa wedi gwneud sylw am y peth.

Mae'r tribiwnlys yng Nghaerdydd yn parhau.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.