Apêl wedi ymosodiad 'gwarthus'

Car heddlu
Image caption Roedd yr ymosodiad rhwng dydd Sul, Mehefin 17, a dydd Mawrth, Mehefin 19.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth wedi ymosodiad "gwarthus" ar anifail.

Dywedodd yr heddlu fod y ddafad yn fyw o hyd er bod rhywun wedi trywanu ei phen â sgriwdreifer naw modfedd o hyd.

Mae'r ddafad yn gwella yn fferm ei pherchennog yn Rhyd-y-fro yng Nghwm Tawe.

Dywedodd Jethro Harris o fferm Coed Cae Mawr fod y ddafad wedi bod yn pori ar Fynydd y Baran.

'Yn wyrth'

"Roedd cymydog yn reido ceffyl pan welodd y ddafad ... oedd e'n meddwl bod brigyn neu rywbeth yn sownd yn ei phen.

"Pan ethon ni â'r anifail i'r fferm dyna pryd sylweddolon ni taw sgriwdreifer oedd yn ei phen.

"Roedd e wedi cael ei hwpo mor ddwfn, wel, mae'n wyrth ei bod hi'n fyw o hyd.

'Asgwrn'

"Mae'n debyg bod y sgriwdreifer wedi pwno asgwrn yn lle mynd i mewn i'r ymennydd."

Roedd yr ymosodiad rhwng dydd Sul, Mehefin 17, a dydd Mawrth, Mehefin 19.

Dywedodd Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Mark Jones: "Mae'r digwyddiad gwarthus hwn wedi achosi poen i'r anifail a gofid i'r ffermwr ac rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod o hyd i'r troseddwr."

Dylai unrhywun â gwybodaeth gysylltu â Mr Jones yng Ngorsaf Heddlu Castell-nedd ar 07805301531 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.