Abertawe yn gwadu cais am Marvin Emnes

Marvin Emnes Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bu Marvin Emnes yn chware ar y Liberty am fis yn 2010

Mae cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, wedi gwadu bod y clwb wedi gwneud cynnig o £3 miliwn am Marvin Emnes.

Treuliodd y chwaraewr o Middlesbrough gyfnod o fis ar fenthyg yn Stadiwm Liberty yn Hydref 2010, ac fe ddaeth yn arwr gyda'r cefnogwyr cartref yn syth wrth sgorio'r gôl fuddugol yn erbyn Caerdydd.

Dywedodd Jenkins bod y clwb wedi gwneud ymholiadau i Middlesbrough, "ond roedd hynny chwe wythnos yn ôl pan oedd Brendan Rodgers yn rheolwr yma".

"Yn sicr dydyn ni ddim wedi holi eto ers i Michael Laudrup gymryd yr awenau.

"Gan ein bod wedi penodi rheolwr newydd rydym yn asesu ein holl opsiynau.

"Bydd Michael, gyda help ein staff recriwtio, yn penderfynu dros yr wythnosau nesaf i ba gyfeiriad y byddwn yn mynd o safbwynt chwaraewyr newydd.

"Mae'n bwysig i'n cefnogwyr sylweddoli hyn a pheidio cymryd gormod o sylw o'r enwau sy'n cael eu cysylltu gyda'r clwb ar hyn o bryd neu yn y dyfodol."

Eisoes mae Jenkins wedi dweud na fydd cronfa anferth ar gael i Laudrup cyn cychwyn eu hail dymor yn yr Uwchgynghrair.

Un enw sydd wedi cael ei gysylltu gyda'r tîm fodd bynnag yw ymosodwr Sweden, Markus Rosenberg o glwb Werder Bremen yn Yr Almaen.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.