Rhybudd Robert Howley am ddisgyblaeth

Rob Howley Image copyright Huw Evans picture agency

Mae hyfforddwr dros dro tîm rygbi Cymru, Rob Howley, wedi dweud bod rhaid i'r tîm wella'u disgyblaeth a hunanfeddiant cyn y prawf olaf yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn.

Bydd yr un 15 a gollodd yn eiliadau ola'r ail brawf yn ceisio curo Awstralia ar eu tomen eu hunain am y tro cyntaf ers 43 o flynyddoedd.

Rhoddodd cic gosb Mike Harris, cic ola'r gêm, fuddugoliaeth o 25-23 i Awstralia yn Melbourne wythnos yn ôl.

"Pan ydych yn chwarae yn erbyn timau hemisffer y de, rhaid i chi fod yn fanwl ac yn ddisgybledig," meddai Howley.

Ond er colli, mae Cymru wedi cadw'r un tîm i ddechrau'r prawf olaf.

Yr unig newid yw ymysg yr eilyddion gyda Ken Owens yn dychwelyd i'r fainc yn lle Richard Hibbard - fe oedd yn gyfrifol am ildio'r gic gosb hwyr.

"Roedden ni ar y blaen am 71 o'r 80 munud, ac mae hynny'n dangos pam ein bod wedi dewis yr un tîm eto," ychwanegodd Howley.

"Mae gennym gyfle arall o'n blaenau ddydd Sadwrn i fynd dros y cam mawr yna o guro tîm o hemisffer y de, ac mae'r chwaraewyr yn barod iawn am yr her.

"Rhaid ein bod ni'n gwneud rhywbeth yn iawn i gyrraedd y pedwerydd safle yn rhestr detholion y byd rygbi, ac yn nhermau cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd mae'n hwb enfawr.

"Rwy'n credu bod hynny'n rhoi ysgogiad ychwanegol ar gyfer gêm y penwythnos yma."

TIMAU: AWSTRALIA vCYMRU: STADIWM ALLIANZ, SYDNEY: DYDD SADWRN, MEHEFIN 23, 6am :-

Awstralia: Kurtley Beale (Melbourne Rebels); Adam Ashley-Cooper (NSW), Rob Horne (NSW), Pat McCabe (ACT), Digby Ioane (Queensland); Berrick Barnes (NSW), Will Genia (Queensland); Benn Robinson (NSW), Tatafu Polota-Nau (NSW), Sekope Kepu (NSW), Sitaleki Timani (NSW), Nathan Sharpe (Western Force), Scott Higginbotham (Queensland), David Pocock (Western Force, capt), Wycliff Palu (NSW).

Eilyddion: Stephen Moore (ACT), Ben Alexander (ACT), Rob Simmons (Queensland), Dave Dennis (NSW), Michael Hooper (ACT), N White (ACT), A Fainga'a (Queensland).

Cymru: Leigh Halfpenny (Gleision); Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Ashley Beck (Gweilch), George North (Scarlets); Rhys Priestland (Scarlets), Mike Phillips (Bayonne); Gethin Jenkins (Toulon), Matthew Rees (Scarlets), Adam Jones (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Dreigiau), Sam Warburton (Gleision, capt), Ryan Jones (Gweilch).

Eilyddion: Ken Owens (Scarlets), Paul James (Gweilch), Luke Charteris (Perpignan), Justin Tipuric (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch), James Hook (Perpignan), Scott Williams (Scarlets).

Dyfarnwr: Craig Joubert (De Affrica).

Straeon perthnasol