Llifogydd: Cyngerdd yn codi arian

Maes carafanau Riverside, Llandre, Ceredigion Image copyright PA
Image caption Dioddefodd pobl leol ac ymwelwyr yn sgil y llifogydd

Mae cyngerdd wedi ei gynnal yn Aberystwyth er mwyn codi arian ar gyfer y rhai dioddefwyr y llifogydd diweddar.

Roedd tua 25 o grwpiau'n perfformio ddydd Sadwrn mewn gig 12 awr yn Undeb y Myfyrwyr yn y brifysgol.

Effeithiodd y llifogydd ar rannau o ogledd Ceredigion a de Gwynedd ac mae'r gwaith glanhau yn parhau ym mhentrefi Talybont, Dolybont a Llandre.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod mis o law wedi disgyn yn ardal Aberystwyth ar Fehefin 8.

Image caption Y Gwirfoddolwyr yn un o'r bandiau sy'n perfformio

Dywedodd trefnydd y gig, Bob Maycock, fod "yr ymateb wedi bod yn wych" o gofio bod y trefnu wedi dechrau ychydig dros wythnos yn ôl.

Dechreuodd y cyngerdd am hanner dydd.

Hefyd roedd sioe ffasiwn a chystadlaethau wedi eu trefnu a gemau ac ocsiwn.

Dywedodd Mr Maycock sy'n byw yn Aberystwyth: "Roeddwn yn siarad gyda ffrind sy'n berchen ar siop recordiau.

"Soniais wrtho y dylai rhywun drefnu cyngerdd i godi arian a dywedodd y dylwn i fynd ati.

"Dyna darddiad y syniad a dyma ni lai na phythefnos wedyn yn cael ein diddanu."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.