Chambers yn ennill

Fe wnaeth Dwain Chambers gymryd cam tuag at sicrhau lle yn nhîm Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd wrth iddo ennill ras 100 m yn nhreialon Aviva.

Gorffennodd y ras mewn 10.35 eiliad i sicrhau lle yn y ras gynderfynol ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth Dai Green, pencampwr y byd, ennill ei ras 400 m dros y clwydi mewn amser o 50.8.

Hefyd drwodd i'r ras derfynol ddydd Sadwrn mae Jack Green (51.50) a'r Cymro Rhys Williams.

Mae Green yn sicr o'i le yn y tîm Olympaidd ond mae dau le eto i'w penderfynu.