Dod o hyd i gorff ar draeth

Gwylwyr y Glannau
Image caption Dywedodd Gwylwyr y Glannau fod y corff wedi ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor

Mae'r heddlu wedi dweud bod corff wedi ei ddarganfod ar draeth ym Mae Trearddur, Ynys Môn.

Roedd y corff rhwng Porth y Post a Phorth Dafach.

Am 11.20am ffoniodd cerddwr yr heddlu.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau fod y corff wedi ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Mae'r crwner wedi cael ei hysbysu.