Cyhoeddi enw dyn ar goll yn Aberhonddu

Mae'r gwasanaethau brys yn chwilio afon ac ardaloedd cyfagos eto yng nghyffiniau Aberhonddu wedi i ddyn lleol fynd ar goll.

Y dyn yw Steven Moore, 54 oed.

Mae'r heddlu wedi bod yn chwilio wrth i lefel Afon Wysg ostwng.

Roedd y chwilio wedi ei ohirio am fod yr afon yn uchel, yn llifo'n gyflym ac yn beryglus iawn.

Image caption Y dyn yw Steven Moore, 54 oed.

Fe gafodd y gwasanaethau brys alwad tua 6am ddydd Gwener.

Y gred yw bod y dyn wedi cwympo i'r afon ger Pont Llanfaes yn gynnar fore Gwener.

Mae plismyn arbenigol wedi bod yn rhoi cefnogaeth i'w deulu.

Ar un adeg roedd timau arbenigol yn chwilio'r afon rhwng Aberhonddu a Thal-y-bont ar Wysg.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.