Bellamy'n symud i Gaerdydd?

Craig Bellamy
Image caption Roedd seren 32 oed Lerpwl a Chymru ar fenthyg i Gaerdydd am gyfnod.

Mae BBC Cymru'n deall bod yr Adar Gleision yn ystyried perswadio Craig Bellamy i chwarae i'w ddinas enedigol.

Roedd seren 32 oed Lerpwl a Chymru ar fenthyg i Gaerdydd am gyfnod.

Symudodd o Manchester City i Lerpwl yn 2011 ar gytundeb dwy flynedd.

Mae Caerdydd yn gobeithio trafod cynnig â Lerpwl cyn cysylltu â'r chwaraewr.

Sgoriodd 11 o goliau mewn 35 o gemau pan oedd yn chwarae i'r Adar Gleision yn 2010-2011.

Mae wedi sgorio 19 o goliau mewn 69 o gemau rhyngwladol a phan oedd yn chwarae i Norwich City ei gydchwaraewr oedd rheolwr Caerdydd, Malky Mackay.