Angladd Cpl Michael Thacker yng Nghadeirlan Coventry

Cpl Michael Thacker Image copyright MOD
Image caption Cafodd Cpl Michael Thacker ei saethu ar Fehefin 1

Bydd angladd milwr a laddwyd yn gynharach yn y mis yn Afghanistan yn cael ei gynnal ddydd Llun.

Roedd y Corpral Michael Thacker, o Fataliwn Cyntaf y Cymry Brenhinol, yn byw yn Coventry ond cafodd ei addysg yng Nghwmbrân.

Cafodd ei saethu yn ardal Nahr-e-Saraj yn nhalaith Helmand.

Mae'n gadael gwraig, Catherine, a merch dwy flwydd oed Millie.

Bydd yr angladd yn y gadeirlan yn Coventry am 2:45pm.

Roedd ar ei drydedd taith i Afghanistan. Cafodd ei gludo o'r lle y cafodd ei saethu gan hofrennydd, ond bu farw yn ddiweddarach o'i anafiadau.

Mae ei frawd iau, y Corpral Matthew Thacker, hefyd yn aelod o'r bataliwn ac fe ddisgrifiodd ei frawd Michael fel "arwr go iawn" oedd yn caru ei waith.

Straeon perthnasol