Gemau anodd i glybiau Cymru

Chwarewyr TNS yn dathlu ennill Uwchgynghrair Cymru Image copyright Other
Image caption Chwarewyr TNS yn dathlu ennill Uwchgynghrair Cymru ym mis Ebrill

Mae pencampwyr Uwchgynghrair Pêl-droed Cymru, Y Seintiau Newydd, yn wynebu tasg anodd yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf.

Cafodd yr enwau eu tynnu o'r het ddydd Llun ar gyfer y rowndiau rhagbrofol. Fel pencampwyr Cymru, roedd Y Seintiau'n mynd yn syth i'r ail rownd.

Ond yn y rownd honno fe fyddan nhw'n wynebu un o'r timau cryfaf yn y rowndiau rhagbrofol, sef Helsingborgs IF - pencampwyr Sweden.

Bydd y cymal cyntaf yn cael ei chwarae yng Nghymru ar Orffennaf 17 neu 18, gyda'r ail gymal yn Sweden wythnos yn ddiweddarach.

Doedd y newyddion fawr gwell i'r tri thîm o Gymru fydd yn cystadlu yng Nghynghrair Europa y tymor nesaf.

Bydd dau ohonyn nhw - Llanelli a Derwyddon Cefn - yn teithio i'r Ffindir.

Roedd rhaid i'r Derwyddon gael trwydded arbennig i gystadlu o gwbl gan nad ydyn nhw'n chwarae ym mhrif gynghrair eu gwlad, ac fe fyddan nhw'n teithio i'r Ffindir i wynebu Myllykosken Pallo-47.

KuPS Kuopio yw'r gwrthwynebwyr i Lanelli, ac unwaith eto bydd y cymal cyntaf oddi cartref.

Ond Dinas Bangor sydd â'r daith bellaf, gan iddyn nhw ddod o'r het i wynebu FC Zimbru Chisinau o Moldova, ond o leiaf fe fyddan nhw'n edrych ymlaen at gynnal yr ail gymal ym Mangor, a'u stadiwm newydd yn Nantporth.

Bydd cymalau cyntaf y gemau'n cael eu chwarae ar Orffennaf 5, gyda'r ail gymalau i gyd yng Nghymru wythnos yn ddiweddarach.

Straeon perthnasol