Rygbi: Cymru'n disgyn i chweched

Siom Cymru Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd siom tîm Cymru ar y daith i Awstralia yn amlwg

Mae Cymru wedi disgyn o bedwerydd i chweched ar restr detholion y byd rygbi yn dilyn y golled yn erbyn Awstralia yn y trydydd prawf.

Mae cyfres gemau'r hydref felly yn allweddol i obeithion Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2015.

Oherwydd cyfundrefn y gystadleuaeth, bydd yr enwau'n cael eu tynnu o'r het ar gyfer grwpiau rownd gyntaf y gystadleuaeth ym mis Rhagfyr eleni - dros ddwy flynedd cyn i'r gystadleuaeth ddechrau.

Bydd un tîm ymhob grŵp wedi'u dethol yn seiliedig ar restr detholion y byd ar y pryd, sy'n golygu bod lle yn y pedwar uchaf yn allweddol.

Yn dilyn gemau'r penwythnos, mae Cymru wedi disgyn dau le i'r chweched safle wedi iddyn nhw golli i Awstralia am y trydydd tro yn y gyfres.

Wedi eu gêm gyfeillgar yn erbyn De Affrica, mae Lloegr wedi codi i'r pedwerydd safle, gyda Ffrainc yn codi i bumed ar ôl curo Ariannin.

O dan drefn y rhestr detholion, mae Iwerddon yn codi i'r seithfed safle uwchben Ariannin er iddyn nhw golli o 60-0 yn erbyn Seland Newydd.

Bydd Cymru'n croesawu Ariannin, Samoa, Seland Newydd ac Awstralia i Stadiwm y Mileniwm rhwng Tachwedd 10 a Rhagfyr 1, ac er mwyn bod yn sicr o'u lle yn y pedwar uchaf, fe fydd angen o leiaf dair buddugoliaeth yn y pedair gêm.

Straeon perthnasol