Un lôn ar yr A55 wedi agor ar ôl tân ar fws

Mwg yn dod o'r bws sydd ar dân ar yr A55 (llun: Adam Phillips) Image copyright Adam Phillips
Image caption Mwg yn dod o'r bws sydd ar dân ar yr A55 (llun: Adam Phillips)

Mae'r A55 wedi ail agor ar ôl i un lôn orllewinol orfod cau wrth i ddiffoddwyr daclo tân ar fws yn Sir y Fflint.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad ger cyffordd 32A Helygain am 3.28pm ddydd Llun.

Bu un lôn ar gau am bron i bum awr, tan tua 8.30pm.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân bod y bws ar dân ond bod y teithwyr wedi llwyddo i ddianc.

Roedd 45 o bobl ar y bws ar y bryd.

Nam ar yr injan achosodd y tân sydd wedi dinistrio'r bws yn llwyr.

Cafodd tair injan, criwiau o Lanelwy, Treffynnon a Glannau Dyfrdwy, eu galw i'r digwyddiad.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.