Pryderon am ddyn sydd ar goll

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth am ddyn 28 oed, sydd wedi bod ar goll ers wythnos.

Fe adawodd James Vaughan ei gartre' yn Northville, Cwmbrân, ar ddydd Iau Mehefin 21.

Mae'n bum troedfedd pedair modfedd o daldra, o faint canolig, a chanddo wallt byr du a barf bychan.

Mae ganddo hefyd datŵ o symbol Chineaidd ar ei fraich chwith.

Mae'r heddlu a'i deulu yn pryderu am ddiogelwch Mr Vaughan gan ei fod yn diodde' o iselder.

Credir iddo gael ei weld ar Ffordd Avondale, Cwmbrân, rhwng 4pm a 6pm ar ddydd Sadwrn Mehefin 23.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am Mr Vaughan gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.