Cwmni'n ceisio adfer cyflenwad trydan yn Aberdâr

Mae cwmni'n ceisio adfer cyflenwad wedi i hwrdd o drydan effeithio ar 160 o gartrefi yn Aberdâr.

Aeth set deledu ar dân a bu raid i fenyw oedrannus gael oscigen oherwydd effeithiau anadlu mwg.

Llwyddodd y cwmni i adfer cyflenwad i 32 o gartrefi nos Fawrth ac mae 'na 160 arall i'w hadfer ddydd Mercher.

Rhaid i beirianwyr Western Power fynd i bob cartref er mwyn cywiro'r bocs ffiws.

Cafodd y cwmni'r alwad gyntaf am 8.10 pm.

Y gobaith yw y bydd y cyflenwad wedi ei adfer yn llwyr i bawb erbyn diwedd y dydd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.