Cwmni technoleg gwybodaeth yn creu 150 o swyddi wrth i swyddfa agor

Allweddell cyfrifiadur
Image caption Mae'r gweithwyr cyntaf eisoes wedi cychwyn eu gwaith yng Nghaerffili

Bydd 150 o swyddi'n cael eu creu wrth i gwmni technoleg agor swyddfa'n swyddogol yng Nghaerffili.

Fe fydd y swyddi yn cael eu creu dros y tair blynedd nesaf.

Dywedodd Attenda fod £198 miliwn o gefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi diogelu'r swyddi er gwaetha cystadleuaeth Y Weriniaeth Siec.

Mae'r cwmni, sydd wedi ei leoli yn Staines ger Llundain, yn cynnig cefnogaeth technoleg a rhwydwaith mewnol i fusnesau ym Mhrydain a rhyngwladol.

Edwina Hart, Gweinidog Busnes Cymru, sy'n agor y swyddfa ddydd Mercher.

'Perthnasol'

"Mae hon yn enghraifft dda o gwmni a ddewisodd Cymru oherwydd bod y gweithlu ar gael, y sgiliau perthnasol a bod modd ehangu," meddai Ms Hart.

"Hwn yw un o'n prif sectorau, un sydd wedi ei nodi â photensial o ran twf.

"Mae'r buddsoddiad i'w groesawu yn y sector technoleg gwybodaeth yng Nghymru."

Eisoes mae rhai gweithwyr yn swyddfeydd Britannia House ym Mharc Busnes Caerffili.

Bydd gwaith codi swyddfa newydd yn y parc busnes yn dechrau'r flwyddyn nesa.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.