Parhau i ymchwilio i lofruddiaeth dyn 20 oed ym Maesteg

Thomas Sutton Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd Thomas Sutton yn 20 oed

Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio ar ôl i ddyn 20 oed gael ei drywanu i farwolaeth yn ardal Maesteg.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Nantyffyllon o Faesteg nos Fawrth ar ôl i ddau berson, dyn 20 oed a llanc 17 oed, gael eu trywanu.

Bu farw Thomas Sutton o Stryd Fictoria, Caerau, Maesteg, yn yr ysbyty o'i anafiadau.

Mae'r llanc 17 oed, sydd wedi ei enwi yn lleol fel Kyle Harris, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl iddo yntau gael ei drywanu.

Dydd Mercher dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn parhau i gasglu tystiolaeth.

Apêl

Mae Heol Tonna ym Maesteg yn parhau ar gau ddydd Iau wrth i'r heddlu ymchwilio.

Cafodd yr heddlu eu galw i Heol Tonna am 9pm nos Fawrth.

Fe wnaeth yr heddlu sicrhau'r bobl leol eu bod yn gwneud popeth posib i arestio'r person sy'n gyfrifol am yr ymosodiad.

Mae swyddogion cymunedol yr heddlu wedi bod yn siarad gyda'r bobl leol.

Mae ystafell ymchwil wedi ei sefydlu yng ngorsaf yr heddlu Pen-y-bont ar Ogwr.

Fe wnaeth y Ditectif Brif Arolygydd Paul Hurley, sy'n arwain yr ymchwiliad, apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr hyn ddigwyddodd i gysylltu gyda'r heddlu.

"Rydym yn apelio ar unrhyw un oedd ar heol Tonna rhwng 7pm a 9.30pm nos Fawrth neu a welodd unrhyw beth amheus i gysylltu gyda ni."

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio stafell ymholiadau'r heddlu ar 01656 306 099 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.