Llifogydd posib wedi stormydd

Glaw trwm Image copyright Getty Images

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus gan y gallai glaw trwm a stormydd achosi llifogydd brynhawn Iau.

Bydd stormydd mellt a tharanau yn debygol mewn sawl man yng Nghymru ac fe allai hynny arwain at ddŵr ar wyneb y ffyrdd a draeniau yn gorlifo.

Er hynny, mae risg llifogydd o'r prif afonydd yn isel.

Peryglus

Un rhybudd penodol yw y dylai gyrwyr fod yn arbennig o ofalus gan y gallai amgylchiadau gyrru fod yn beryglus dros ben.

Bydd yr asiantaeth yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac yn cynghori pobl i wrando neu wylio darllediadau tywydd ar y cyfryngau er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf, neu ymweld â gwefan yr Asiantaeth.

Gall pobl hefyd ffonio llinell lifogydd arbennig yr Asiantaeth ar 0845 988 1188.

Bydd y tywydd drwg yn bennaf yn y gogledd-ddwyrain nos Iau, ac mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd o law trwm yno tan hanner nos.

Dywedodd cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Yvonne Evans:

"Fydd hi ddim mor glos nos Iau ag yr oedd hi neithiwr gyda'r tymheredd ar ei isa' tua 13 gradd selsiws ond gyda'r gwynt yn cryfhau.

"Fe fydd hi'n ddigon llwyd ddydd Gwener ac yn wyntog gyda'r gwynt ar ei gryfaf yn y gogledd-orllewin, ac yn hyrddio rhwng 40 a 50 m.y.a. ac fe fydd cyfnodau o law hefyd.

"Ond fe fydd hi'n dywydd mwy sefydlog ddydd Sul gyda'r gwynt yn gostegu."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.