Damwain ddifrifol ar ffordd yr A4086

Bu'r brif ffordd rhwng Cwm y Glo a Llanberis ynghau nos Iau ar ôl damwain ddifrifol ar ffordd yr A4086.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod beic modur wedi bod mewn gwrthdrawiad â char am 5:05pm ger Canolfan Caint.

Cafodd gyrrwr y beic modur - dyn 44 oed - ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gydag anafiadau difrifol.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw dystion i'r gwrthdrawiad, neu a welodd feic modur du oedd yn teithio tua'r gorllewin drwy Lanberis ychydig cyn y digwyddiad, i gysylltu gyda'u Huned Blismona Ffyrdd ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.