Gŵyl lenyddiaeth newydd yn dechrau yn Ninefwr

Parc Dinefwr Image copyright National Trust
Image caption Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal ym Mharc Dinefwr sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae gŵyl newydd ddwyieithog i ddathlu llenyddiaeth Cymru yn cael ei chynnal yn Ninefwr, Sir Gaerfyrddin.

Bydd Rhys Iorwerth, enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro, John Davies a Dewi Prysor ymhlith yr awduron fydd yn mynychu'r ŵyl dridiau.

Yn ogystal bydd Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru, a David Crystal, yr arbenigwr mewn ieithyddiaeth sydd yn byw yng Nghaergybi, yn cymryd rhan.

Bydd yr Athro Crystal yn siarad am ei lyfr diweddara', 'The Story of English in 100 Words', sy'n trafod y 100 air sydd, yn ei farn ef, wedi ymffurfio cymeriad yr iaith fel y mae'n cael ei siarad heddiw.

Yn ei sgwrs bydd yn trafod pa eiriau Cymraeg fyddai'n cael eu dewis petai'n 'sgrifennu llyfr tebyg yn y Gymraeg.

'Sir harddaf'

Ymhlith y beirdd eraill fydd yn ymddangos y mae Andrew Motion, Wendy Cope ac Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru 2011-2013.

Dywedodd Gillian Clarke ei bod hi'n meddwl mai Sir Gaerfyrddin yw un o'r siroedd harddaf yng Nghymru.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Ennillodd Rhys Iorwerth Gadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro

"Mae cyfoeth o erddi enwog, tai hanesyddol a chestyll yma," meddai.

"Un o'r mwyaf o'r rhain yw Castell ac Ystâd Dinefwr.

"Yma mae chwedl yn uno gyda hanes, barddoniaeth gyda stori.

"Does dim unman gwell na Dinefwr i ddathlu gyda gŵyl o eiriau."

Mae cerddorion hefyd yn dod i'r ŵyl, gan gynnwys Cowbois Rhos Botwnnog o ogledd Cymru.

Yn ogystal bydd yna berfformiad o sioe Dal dy Dafod, gyda Geraint Løvgreen, Tecwyn Ifan, Myrddin ap Dafydd, Ifor ap Glyn, Twm Morys, Edwin Humphreys ac Owen Owens.

Mae'r sioe yn dathlu 50 mlynedd ers araith Saunders Lewis, Tynged yr Iaith.

Castell Yr Arglwydd Rhys

"Mae gan Gymru draddodiad di-dor o ddathlu geiriau, cynghanedd a chân, o'r Eisteddfod Genedlaethol i Ŵyl y Gelli : rydym ni'n ymfalchïo yn ein llenyddiaeth," meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru.

"Eleni, bydd Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr yn deffro hen gyffro'r llys gyda chymysgedd o gomedi, cerddoriaeth a'r llenyddiaeth orau sydd gennym. Fe'ch gwelwn ni chi yno."

Llenyddiaeth Cymru sydd wedi trefnu'r digwyddiad gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fel rhan o brosiect Ewropeaidd y Coracle sy'n hybu diwylliant Cymru.

Mae lleoliad yr ŵyl yn Mharc Dinefwr ac roedd Castell Dinefwr yn gartref i'r Arglwydd Rhys, fu'n rheoli'r Deheubarth yn y 12fed Ganrif.

Roedd Yr Arglwydd Rhys yn noddi beirdd y llys ac yn 1176, fe drefnodd ŵyl o gerdd a barddoniaeth yn Aberteifi, digwyddiad a ystyrir fel yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf.

Mae'r ŵyl ymlaen rhwng dydd Gwener Mehefin 29 a dydd Sul Gorffennaf 1.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.