Darganfod ystlum yn Sir Benfro yn 'syfrdanol'

Ystlum clustiog llwyd (Llun: Richard Compton, Wildwood Ecology) Image copyright R crompton / Wildwood Ecology
Image caption Defnyddiwyd DNA i gadarnhau bodolaeth yr ystlumod yn yr ardal

Mae un o ystlumod fwyaf prin Prydain wedi cael ei ddarganfod yn Sir Penfro am y tro cyntaf, yn ôl arbenigwyr.

Mae'r ystlum clustiog llwyd wedi cael ei recordio yn ne Lloegr ac mae'n gyffredin mewn mannau eraill yn Ewrop.

Prydain yw'r rhan fwyaf gogleddol o'i gynefin.

"Mae'n ddarganfyddiad syfrdanol," dywedodd Ant Rogers, swyddog bioamrywiaeth Cyngor Sir Penfro.

Dywedodd fod poblogaethau iach o ystlumod yn arwydd da o "ecosystem iach gyda chynefinoedd sydd wedi eu cysylltu'n dda".

Daeth cadarnhad swyddogol am fodolaeth y rhywogaeth mewn safle clwydo yn nwyrain y sir ar ôl dadansoddiad DNA o'i baw.

Maent fel arfer yn hela yn yr awyr agored hyd at 6km o'u cartref.

Meddai Mr Rogers bod yr ystlumod yn hoffi clwydo mewn gofodau to mawr lle mae yna ddigon o le iddynt hedfan.

"Mae galwad ecoleoli ystlumod clustiog yn dawel iawn, felly mae eu hadnabod yn y maes yn gallu bod yn anodd," dywedodd.

"Yn yr achos yma cawsant eu hadnabod trwy ddadansoddiad DNA o'u baw."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.