Cymry Llundain yn sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr

Môrladron Cernyw yn rhywstro ymosodiad Cymry Llundain Image copyright Brian Tempest
Image caption Bydd Cymry Llundain yn cael eu dyrchafu ac fe fydd Newcastle yn disgyn

Mae Clwb Rygbi Cymry Llundain wedi sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl ennill eu hapêl yn erbyn Undeb Rygbi Lloegr.

Fis diwethaf cyhoeddodd Undeb Rygbi Lloegr na fydd Cymry Llundain yn cael esgyn o'r Bencampwriaeth oherwydd nad yw'r clwb wedi cyrraedd y safonau angenrheidiol i chwarae yng Nghynghrair Aviva.

Roedd Yr Alltudion wedi dweud y byddan nhw'n rhannu Stadiwm Kassam gyda thîm pêl-droed Rhydychen.

Ond doedd hynny ddim yn ddigon da i Undeb Rygbi Lloegr.

Wedi ennill apêl ddydd Gwener, bydd Cymry Llundain yn cael eu dyrchafu ac fe fydd Newcastle yn disgyn.

Enillodd Cymry Llundain Bencampwriaeth Undeb Rygbi Lloegr gan guro Môrladron Cernyw 66-41 ar gyfanswm dros ddau gymal.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.