Canfod corff ar Y Glyder Fawr

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod corff wedi cael ei ganfod ar Y Glyder Fawr yn Eryri.

Dydi'r heddlu ddim yn trin y digwyddiad fel un amheus.

Cafodd yr heddlu alwad am 1.46pm ddydd Gwener bod corff ar y mynydd.

Mae ymholiadau i adnabod y corff yn parhau.

Caiff y Crwner ei hysbysu.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.