Cymru i wynebu Serbia yn Novi Sad

Roedd gêm diwethaf Cymru yn erbyn Mecsico yn Efrog Newydd Image copyright AP
Image caption Roedd gêm diwethaf Cymru yn erbyn Mecsico yn Efrog Newydd

Daeth cadarnhad y bydd gêm oddi cartref cyntaf tîm pêl-droed Cymru yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 yn cael ei chwarae yn Novi Sad, Serbia.

Dyma fydd ail gêm Cymru yn y bencampwriaeth a fydd yn cychwyn bedwar niwrnod yn gynharach yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Gwlad Belg fydd y gwrthwynebwyr cyntaf ar Fedi 7 cyn i dîm Chris Coleman deithio i Stadiwm Karadjordje.

Does 'na ddim cadarnhad eto yn lle y bydd y gêm rhwng Croatia a Chymru ar Hydref 16.

Fe fydd Cymru yn croesawu'r Alban ar Hydref 12 i Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae rheolwr Cymru hefyd wedi sicrhau gêm gyfeillgar yn erbyn Awstria yn Stadiwm Liberty ar Chwefror 6 2013.

Fe fydd gêm gyfeillgar yn erbyn Bosnia-Hercegovina ym Mharc y Scarlets ar Awst 15 2012 cyn i'r ymgyrch tuag at Gwpan y Byd yn Brasil gychwyn fis Medi.

Gemau Cymru yn ymgyrch Cwpan y Byd

2012

Medi 7: Gwlad Belg (adref) - Stadiwm Dinas Caerdydd

Medi 11: Serbia (oddi cartref) - Stadiwm Karadjordje, Novi Sad

Hydref 12: Yr Alban (adref) Stadiwm Dinas Caerdydd

Hydref 16: Croatia (oddi cartref)

2013

Mawrth 22: Yr Alban (oddi cartref)

Mawrth 26: Croatia (adref) Stadiwm Liberty

Medi 6: Macedonia (oddi cartref)

Medi 10: Serbia (adref)

Hydref 11: Macedonia (adref)

Hydref 15: Gwlad Belg (oddi cartref)