Llundain 2012: Gareth Bale i fethu'r Gemau Olympaidd

Gareth Bale Image copyright PA
Image caption Cafodd Gareth Bale ei weld yn gwisgo crys cefnogwyr Tîm pêl-droed GB y llynedd

Fydd asgellwr Tottenham Hotspur a Chymru, Gareth Bale, ddim ar gael i chwarae yn nhîm pêl-droed Prydain yn y Gemau Olympaidd wedi anaf.

Mae Bale, 22 oed, wedi gwaethygu anaf i'w gefn wrth ymarfer.

Roedd disgwyl i Bale gael ei enwi yng ngharfan Stuart Pearce o 18 ddydd Llun.

Wedi cyngor meddygol mae'r Cymro o Gaerdydd wedi gorfod tynnu allan.

Roedd disgwyl iddo fod yn un o sêr y garfan.

Dydd Mercher fe wnaeth Bale arwyddo cytundeb pedair blynedd i aros yn White Hart Lane.

Crys cefnogwyr

Ond mae amser yn brin iddo wella o'r anaf cyn dechrau'r tymor ar Awst 12 yn erbyn Newcastle.

Roedd o, fel capten Cymru Aaron Ramsey, yn gefnogwyr brwd o dîm Prydain yn Y Gemau, er gwaetha' gwrthwynebiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Ym mis Mai 2011 fe wnaeth ddatgan ei ddymuniad i chwarae i dîm Pearce ac ym mis Hydref cafodd lluniau eu cyhoeddi ohono yn gwisgo crys cefnogwyr tîm pêl-droed Prydain.

"Dwi eisiau chwarae yn y Gemau Olympaidd," meddai ym mis Mai 2011.

"Dwi'n credu y byddai'n brofiad gwych.

"Fe welwch chi hyn gyda'r Llewod mewn rygbi, maen nhw'n dod at ei gilydd fel uned ac yn chwarae yn erbyn gwledydd eraill.

"Fe fydd yn wych, does 'na ddim rheswm pam na all ddigwydd mewn pêl-droed.

"Ar hyn o bryd, dydi Cymru ddim wedi llwyddo i gyrraedd prif bencampwriaeth mewn blynyddoedd....fe fyddai'n wych chwarae yn erbyn rhai o wledydd gorau'r byd."

Cymry yn y garfan

Roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ogystal â'r cymdeithasau yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon, wedi dweud y byddai Tîm GB yn peryglu eu hannibyniaeth.

Ond fe wnaethon nhw ddweud na fydden nhw'n atal chwaraewyr rhag cymryd rhan yn y bencampwriaeth.

Fe fydd Cymru yn chwarae gêm gyfeillgar yn Stadiwm Parc y Scarlets ar Awst 15 yn erbyn Bosnia-Hercegovina cyn cychwyn ar ymgyrch Cwpan y Byd 2014 yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn erbyn Gwlad Belg ar Fedi 7.

Yn ystod yr wythnos fe ddaeth cadarnhad na fydd David Beckham yn y garfan.

Roedd disgwyl iddo fod yn un o dri chwaraewr dros 23 oed a fyddai'n cael ei enwi.

Ond mae'r tri lle mae'n debyg wedi mynd i'r ddau Gymro, Ryan Giggs a Craig Bellamy ac amddiffynwr Manchester City, Micah Richards.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.