Yr heddlu yn cael mwy o amser i holi dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth ym Maesteg

Thomas Sutton Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd Thomas Sutton yn 20 oed

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth dyn 20 oed ym Maesteg wedi cael amser ychwanegol i holi dyn 22 oed.

Cafodd y dyn 22 oed ei arestio ddydd Iau ar amheuaeth o lofruddio Thomas Sutton nos Fawrth.

Cafodd yr heddlu eu galw i Heol Tonna yn ardal Nantyffyllon tua 9pm nos Fawrth.

Roedd Mr Sutton wedi ei drywanu ac fe aed a fo a llanc 17 oed i'r ysbyty.

Bu farw o'i anafiadau.

Mae'r llanc 17 oed, sydd wedi ei enwi yn lleol fel Kyle Harris, yn dal mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Dywedodd yr heddlu ei bod yn apelio ar unrhyw un a oedd yn dyst i'r digwyddiad neu unrhyw un oedd ar Heol Tonna rhwng 7pm a 9.30pm nos Fawrth i gysylltu gyda nhw.

Mae ystafell ymchwilio wedi ei sefydlu yng ngorsaf yr heddlu Pen-y-bont ar Ogwr.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio ystafell ymchwilio'r heddlu ar 01656 306 099 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.