Buddugoliaeth gyntaf 20 pelawd i Northants wrth guro'r Dreigiau

David Murphy a Con de Lange yn dathlu oddi ar wiced James Harris Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption David Murphy a Con de Lange yn dathlu oddi ar wiced James Harris

Sir Nothants 111-1 (13.1 pelawd) yn curo Morgannwg 110-9 (20 pelawd) o naw wiced.

Fe wnaeth Con de Lange a James Middlebrook gymryd tair wiced yr un wrth i Sir Northants sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yng nghystadleuaeth yr 20 pelawd a hynny yn erbyn Morgannwg.

Roedd y canlyniad o naw wiced yn adlewyrchiad teg o'r gêm wrth i Forgannwg fethu cyfrannu gyda naill a'i bat na'r bêl yn Stadiwm Swalec nos Sadwrn.

Roedd y llain yn araf ond doedd 'na ddim esgud i Forgannwg golli naw wiced am 110.

Stuart Walters oedd prif sgoriwr y Dreigiau gyda 34 heb fod allan.

Ond fe wnaeth Middlebrook (3-16) a de Lange (3-15) rwystro'r tîm cartref.

Dydi buddugoliaeth i Sir Northampts ddim yn ddigon iddyn nhw godi o waelod y grŵp.

Pedair gêm sydd gan Forgannwg yn y gystadleuaeth.

I gael unrhyw obaith o fynd ymlaen i'r wyth olaf, mae angen iddyn nhw ennill pob un ohonyn nhw, a hynny llawer gwell na'r perfformiad nos Sadwrn.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.