Angen yr offer a'r dillad addas wrth gerdded y mynyddoedd

Crib Goch tu ôl i Lyn Cwmfynnon (Peter Ellwood) Image copyright Peter Ellwood
Image caption Bu'n rhaid arwain grwp o 11 o gerddwyr i lawr Grib Goch drwy ddefnyddio'r ffôn

Mae nifer o bobl yn mynd i gerdded mynyddoedd Eryri heb yr offer cywir a'r dillad addas ar gyfer y tywydd, yn ôl timau achub.

Dywedodd John Grisdale, Cadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis, bod grŵp o 11 o gerddwyr wedi gorfod cael eu harwain i lawr o'r Wyddfa nos Sadwrn ar ôl mynd ar goll yn y niwl.

"Y mwya ydi'r grŵp y mwya' tebygol ydyn nhw i gael eu gwahanu," meddai.

Dywedodd mai dyma'r trydydd digwyddiad iddyn nhw ymateb iddo ddydd Sadwrn.

Cafodd dyn a llanc ifanc yn ei arddegau eu harwain i lawr y llethrau mewn dau ddigwyddiad gwahanol.

Roedd y dyn 30 oed wedi syrthio ar Bas Llanberis yn fuan wedi 1pm.

Cerddwyr noddedig

Bu'n rhaid i'r tîm achub wahanu wedi iddyn nhw gael gwybod bod bachgen 15 oed wedi cael anaf i'w goes ar lwybr Pyg.

Wrth i'r tîm ddychwelyd cafwyd galwad am y grŵp o 11 oedd ar Grib Goch.

"Llwyddwyd i siarad gyda'r criw dros y ffôn a'u harwain i lawr Llwybr Pyg.

"Mewn chwe awr fe fu'n rhaid i ni ymateb i dri digwyddiad gwahanol.

"Mae nifer y bobl sydd ar y mynyddoedd yn uchel iawn.

"Mae 'na nifer o grwpiau ar y mynyddoedd, nifer o gerddwyr noddedig.

"Mae nifer ohonyn nhw heb baratoi ar gyfer yr amgylchiadau, heb yr offer cywir a'r dillad addas ar gyfer y tywydd."

Dywedodd eu bod wedi dod ar draws grwpiau sydd wedi trefnu'r daith mewn crysau t a jîns.

"Diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth sy'n gyfrifol am hyn," ychwanegodd.

"Gall y tymheredd fod yn oer iawn o hyd ar y mynyddoedd ac yn wlyb.

"Mae angen paratoi yn well, gyda'r gwyntoedd, niwl a glaw yn aml iawn ar y copa."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.