Jamie Donaldson yn ennill Pencampwriaeth Agored Iwerddon

Jamie Donaldson Image copyright Getty Images
Image caption Dyma bencampwriaeth gyntaf i Jamie Donaldson ei hennill ar gylchdaith Ewrop

Mae'r golffiwr o Gymru, Jamie Donaldson, wedi ennill Pencampwriaeth Agored Iwerddon yn Portrush.

Dyma'r tro cyntaf i Donaldson ennill un o brif bencampwriaethau Ewrop.

Llwyddodd y gŵr 36 oed o Bontypridd, i ennill pedair ergyd yn well na Rafa Carbera-Bello, Fabrizio Zanotti ac Anthony Wall, oedd yn gydradd ail.

Fe wnaeth Donaldson gwblhau'r gystadleuaeth 18 ergyd yn well na'r safon ar 270 o bwyntiau.

Derbyniodd siec am £272,000.

Roedd Donaldson wedi dweud yn ystod y bencampwriaeth bod hyn yn baratoad gwych ar gyfer Yr Open yn Royal Lytham & St Annes fis nesaf.

Wedi'r bencampwriaeth yn Iwerddon fe fydd Donaldson yn anelu am Yr Alban ddiwedd yr wythnos nesaf.

Roedd 'na 30,000 o bobl yn gwylio'r bencampwriaeth ddaeth i ben ddydd Sul yng Ngogledd Iwerddon.

Mae 'na 11 mlynedd ers i'r Cymro ennill unrhyw dlws ar ôl cystadlu mewn 225 o bencampwriaethau.

Mae Donaldson yn un o 10 o Gymry sydd wedi ennill ar y gylchdaith Ewropeaidd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.