Eryri: Heddlu'n adnabod corff

Christopher Whitfield Image copyright NW Police
Image caption Roedd Christopher Whitfield yn 42 oed ac o ardal Birmingham

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau mai corff dyn o Birmingham a ganfuwyd ar Glyder Fawr brynhawn Gwener diwethaf.

Roedd Christopher Whitfield, 42 oed, wedi bod ar goll ers dydd Sul, Mehefin 24.

Nid yw marwolaeth Mr Whitfield yn cael ei thrin fel un amheus, ac mae'r mater wedi ei gyfeirio at grwner y gogledd-orllewin.

Yn dilyn adnabod y corff, dywedodd aelod o deulu Mr Whitfield: "Yn dilyn diflaniad Chris ddydd Sul, mae cyfeillion a theulu wedi ymgynnull yn Eryri i geisio cynorthwyo'r chwilio ac i fod yn agos ato.

"Nid dyma'r canlyniad yr oeddem wedi dymuno, ac fe ddaeth fel sioc fawr.

"Rydym yn gwerthfawrogi, waeth pa mor boenus yw hynny i ni, bod Chris yn gwneud rhywbeth yr oedd yn ei garu, yn un o'i hoff leoedd, ac nad oedd wedi dioddef yn ddianghenraid.

"Hoffai'r teulu ddiolch o galon i'r holl aelodau o dimau achub mynydd a'r heddlu a gynorthwyodd i ddod o hyd i Chris a'i gludo adref o'r mynydd mewn amgylchiadau anodd dros ben.

"Heb eu proffesiynoldeb, ymroddiad a charedigrwydd, efallai na fyddem erioed wedi gwybod beth ddigwyddodd.

"Mae'r teulu yn gofyn am breifatrwydd yn y cyfnod anodd iawn yma."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.