Algae: Llacio gwaharddiadau campau dŵr

Llyn Syfaddan
Image caption Mae Llyn Syfaddan ger Aberhonddu

Mae cyngor wedi llacio gwaharddiadau campau dŵr mewn llyn ym Mhowys.

Ym mis Mehefin penderfynodd Cyngor Powys wahardd campau dŵr ar Lyn Syfaddan oherwydd presenoldeb algae glaswyrdd gwenwynig yno.

Mae nifer o sgiwyr dŵr a physgotwyr yn defnyddio'r llyn, ger Aberhonddu.

Ddydd Llun dywedodd gwasanaeth iechyd yr amgylchedd y cyngor fod yr algae dal yn y llyn ond y gallai pysgotwyr a chychod ei ddefnyddio yn awr.

Cur pen

Ond mae'r cyngor yn dal i gynghori pobl i beidio nofio, sgïo dŵr, deifio, padlo na bwrddhwylio yno.

Mae perchnogion anifeiliaid anwes a da byw wedi cael rhybudd i gadw eu hanifeiliaid o lannau'r llyn.

Penderfynodd y cyngor gyflwyno'r gwaharddiad wedi iddyn nhw dderbyn gwybodaeth oddi wrth Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd.

Mae'r algae'n cynhyrchu gwenwyn a all achosi brech ar y croen, cyfog, poenau yn stumog, twymyn a chur pen os ydyn nhw'n cael eu llyncu.

Ac mae'r risg i blant yn fwy.

Mae'r llyn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae arwyddion rhybudd wedi cael eu codi.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.