Trefn gemau Wrecsam a Chasnewydd

Wrecsam a Chasnewydd Image copyright bbc

Bydd gan glwb pêl-droed Casnewydd gêm anodd i ddechrau'r tymor newydd yn Uwchgynghrair Blue Square Bet.

Fe fydd tîm Justin Edinburgh yn teithio i wynebu Mansfield ar ddiwrnod cynta'r tymor ar Awst 11, cyn croesawu Nuneaton i Gasnewydd ar y nos Fawrth canlynol.

Fe fydd Wrecsam yn dechrau'r tymor ar y Cae Ras gydag ymweliad Woking - un o'r timau enillodd ddyrchafiad i'r adran y tymor diwethaf.

Ar nos Fawrth, Awst 14, tro Wrecsam yw hi i gael taith anodd, a hynny i Macclesfield - un o'r timau ddaeth i lawr o Adran 2 y tymor diwethaf.

Bydd y ddau dîm yn wynebu ei gilydd ar Fedi 1 ar y Cae Ras, ac yna i lawr yng Nghasnewydd ar Ionawr 5, 2013.

Fe fydd gan y ddau hefyd ddiweddglo anodd i'w tymor, gyda Wrecsam yn teithio i Mansfield ar gyfer y gêm olaf, a Chasnewydd hefyd oddi cartref yn Grimsby.

GEMAU UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE BET - TYMOR 2012/13
Dyddiad WRECSAM CASNEWYDD
Awst 11 Woking (a) Mansfield (o/c)
Awst 14 Macclesfield (o/c) Nuneaton (a)
Awst 18 Ebbsfleet (o/c) Lincoln (a)
Awst 25 Grimsby (a) Braintree (o/c)
Awst 27 Tamworth (o/c) Henffordd (a)
Medi 1 CASNEWYDD (a) WRECSAM (o/c)
Medi 4 Hyde (a) Dartford(o/c)
Medi 8 Caergrawnt (o/c) Stockport (a)
Medi 15 Luton (o/c) Barrow (o/c)
Medi 25 Barrow (a) Telford (o/c)
Medi 29 Nuneaton (o/c) Grimsby (a)
Hydref 6 Forest Green (a) Tamworth (o/c)
Hydref 9 Stockport (o/c) Ebbsfleet (a)
Hydref 13 Lincoln (a) Macclesfield (o/c)
Hydref 27 Braintree (o/c) Woking (a)
Tachwedd 6 Southport (o/c) Caergrawnt (a)
Tachwedd 10 Henffordd (a) Alfreton (o/c)
Tachwedd 17 Gateshead (a) Hyde (a)
Rhagfyr 1 Kidderminster (o/c) Gateshead (o/c)
Rhagfyr 4 Alfreton (o/c) Luton (a)
Rhagfyr 8 Nuneaton (a) Kidderminster (o/c)
Rhagfyr 22 Grimsby (o/c) Braintree (a)
Rhagfyr 26 Telford (a) Forest Green (o/c)
Rhagfyr 29 Tamworth (a) Henfford (o/c)
Ionawr 1, 2013 Telford (o/c) Forest Green (a)
Ionawr 5 CASNEWYDD (o/c) WRECSAM (a)
Ionawr 12 Ebbsfleet (a) Lincoln (o/c)
Ionawr 19 Lincoln (o/c) Barrow (a)
Ionawr 22 Southport (a) Woking (o/c)
Ionawr 26 Mansfield (a) Southport (o/c)
Chwefror 2 Forest Green (o/c) Kidderminster (a)
Chwefror 9 Stockport (a) Tamworth (a)
Chwefror 12 Henffordd (o/c) Mansfield (a)
Chwefror 16 Gateshead (o/c) Luton (o/c)
Chwefror 26 Barrow (o/c) Gateshead (o/c)
Mawrth 2 Alfreton (a) Hyde (o/c)
Mawrth 9 Dartford (o/c) Ebbsfleet (o/c)
Mawrth 16 Luton (a) Macclesfield (a)
Mawrth 23 Caergrawnt (a) Stockport (o/c)
Mawrth 30 Hyde (o/c) Dartford (a)
Ebrill 1 Macclesfield (a) Nuneaton (o/c)
Ebrill 6 Woking (o/c) Caergrawnt (o/c)
Ebrill 13 Kidderminster (a) Alfreton (a)
Ebrill 20 Mansfield (o/c) Grimsby (o/c)

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.