Cyhoeddi enw corff ar fynydd

Mae enw dyn y daethpwyd o hyd i'w gorff ar Gader Idris ar Fehefin 12 wedi cael ei gyhoeddi.

Y dyn oedd Wayne Mitchell o Danygrisiau, Blaenau Ffestiniog.

Roedd yn 40 oed.

Cafodd y corff ei adnabod wrth ddefnyddio DNA.

Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio ac ymchwiliadau i'w farwolaeth yn parhau.