Disgwyl datganiad olaf ar gynllun Glastir

Gwartheg Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae disgwyl mai'r cyhoeddiad ddydd Mawrth fydd y datganiad olaf ar gynllun Glastir

Bydd adroddiad terfynol ar gynllun amaethyddol dadleuol yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth.

Mae cynllun Glastir - sy'n talu ffermwyr i wneud gwaith amgylcheddol a chadwraethol ar eu tir - wedi bod yn bwnc dadleuol ers amser, gyda nifer o amaethwyr yn gryf yn erbyn y syniad.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd ffermwyr yn elwa o'r newid, ond mae undebau ffermwyr yn dadlau y bydd llawer ar eu colled.

Nod cynllun Glastir yw talu ffermwyr i warchod yr amgylchedd ac fe fydd yn cymryd lle pum cynllun rheoli tir y flwyddyn nesaf.

Dros y misoedd diwetha' mae arweinwyr yr undebau wedi bod yn cynnal cyfarfodydd gyda'r Is Weinidog Amaeth, Alun Davies, i drafod eu pryderon.

'Rhy amgylcheddol'

Mae disgwyl mae'r cyhoeddiad ddydd Mawrth fydd y datganiad olaf ar y cynllun.

Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Jones, ei fod yn ffyddiog y bydd 'na welliannau i'r hyn sydd wedi'i gyflwyno'n barod.

"Mae 'na gymaint o gwyno 'di bod am y cynllun o'r cychwyn cynta' - nad ydy o'n ateb y diben," meddai Mr Jones, sydd o'r farn fod y cynllun yn "rhy amgylcheddol".

"Does gan ffermwyr ddim problem o ran edrych ar ôl yr amgylchedd," ychwanegodd, "ond ein prif waith ar ddiwedd y dydd ydy cynhyrchu bwyd."

Er mwyn cael pwyntiau ar gyfer cynllun Glastir, byddai ffermwyr yn gorfod rhoi'r gorau i ddefnyddio peth tir amaethyddol ar gyfer cynhyrchu bwyd a'i adael i fynd yn ôl i'r hyn yr oedd cyn hynny.

'Gwaith da'

Er bod Undeb Amaethwyr Cymru'n cynghori ffermwyr i ymuno â Glastir os ydyn nhw'n credu bod y cynllun yn addas, dydyn nhw ddim yn credu y bydd y newidiadau diweddaraf yn mynd yn ddigon pell i leddfu pryderon y mwyafrif o ffermwyr.

Gobaith Undeb Amaethwyr Cymru yw y bydd y Gweinidog yn cyhoeddi y bydd pobl sydd mewn cynlluniau amgylcheddol yn barod - fel Tir Gofal - yn gallu trosglwyddo i gynllun Glastir yn ddidrafferth pan fydd y cynlluniau eraill yn dod i ben.

"Byddai hynny'n golygu na fyddai'r gwaith da sydd wedi'i wneud yn barod yn mynd yn ofer", meddai Mr Jones.

"Waeth ni heb â disgwyl y bydd rhywbeth gwell i ddod - rhaid cymryd hwn neu beidio."

"Mae'n bwysig bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i gadw teuluoedd yng nghefn gwlad Cymru.

"Mae 'na bwysau wedi bod ar gynllun Glastir i wella o'r cychwyn - mae'n well rwan na phan ddaeth o allan gynta', ond dydy o'n dal ddim yn ddigon da i fwyafrif ffermwyr Cymru fynd mewn iddo."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.