Gwahardd casglu cocos wedi astudiaeth samplau

cocos
Image caption Mae'r cyngor wedi cyhoeddi hysbysiad ynghylch cau'r ardal gynhyrchu dros dro

Mae Cyngor Sir Gâr wedi gwahardd casglu cocos ym mhob rhan o Foryd y Tair Afon ar unwaith.

Daw hyn wedi cyfres o fethiannau o ran ansawdd y samplau yn y rhaglen samplo pysgod cregyn.

Mae'r cyngor wedi cyhoeddi hysbysiad ynghylch cau'r ardal gynhyrchu dros dro.

Yn gynharach eleni, fe wnaeth ymchwiliad tair blynedd i farwolaethau cocos, a wnaeth niwed i bysgodfa, ddod i'r casgliad nad ar lygredd yr oedd y bai.

Yn un o'r astudiaethau mwyaf manwl o'i bath, comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwil i bopeth a allai fod wedi achosi'r marwolaethau sydd wedi niweidio'r diwydiant yng Nghilfach Tywyn, ar y ffin rhwng Abertawe a Chaerfyrddin, er 2002.

Daeth yr astudiaeth gan arbenigwyr o Brifysgol Hull i'r casgliad fod cyfuniad o barasitiaid, gorboblogi a chyflwr y cocos ar ôl eu deor yn debyg o fod wedi cyfrannu at y marwolaethau.

Bu gwenwyn cregyn y môr yn broblem fawr yn y blynyddoedd diwethaf i'r ardal sy'n enwog am gocos.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.