117 o swyddi'n diflannu

Ffatri Jeyes yn y Wyddgrug Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae'r ffatri'n cynhyrchu nwyddau glanhau

Mae cwmni cynnyrch glanhau wedi cyhoeddi y bydd 117 o swyddi'n diflannu.

Dywedodd cwmni Jeyes y bydden nhw'n cau'r ffatri sydd wedi bod yn cynhyrchu deunyddiau glanhau ar Stad Ddiwydiannol Bromfielder ers 1979.

Bydd y ffatri'n cau'r flwyddyn nesaf wrth i'r cynhyrchu gael ei symud i ffatri Jeyes yn Thetford, Norfolk.

Dywedodd Aelod Cynulliad Delyn, Sandy Mewies: "Mae hyn yn newyddion ofnadwy i'r gweithlu a'r gymuned leol.

"Maen nhw wedi bod yn aros am chwe mis cyn gwybod beth fyddai'n digwydd yn y dyfodol."

Dywedodd Nicholas Goodwin, prif swyddog cyllid y cwmni: "Rydyn ni'n deall y bydd hyn yn peri siom fawr ymysg ein staff teyrngar a'r gymuned leol.

"Rydyn ni, fel llawer o fusnesau eraill, yn wynebu hinsawdd economaidd anodd a chystadleuaeth brwd gan gwmnïau eraill felly mae'n rhaid i ni ystyried opsiynau anodd i sicrhau cyflwr y busnes yn y dyfodol."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.