Angladd Tom Maynard i'w gynnal yng Nghaerdydd

Cadeirlan Llandaf
Image caption Roedd cannoedd yn yr angladd

Mae angladd Tom Maynard yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Mercher.

Cafodd y cricedwr 23 oed ei daro gan un o drenau tanddaearol Llundain yn ardal Wimbledon y mis diwethaf.

Roedd y gwasanaeth yng Nghadeirlan Llandaf ac yna yn Amlosgfa'r Ddraenen Wen.

Doedd dim digon o le yn y Gadeirlan ac roedd tua 100 o bobl yn gwrando y tu allan.

Cyhoedd

Ymhlith y galarwyr roedd y cricedwyr Andrew Flintoff, Kevin Pietersen, Andrew Strauss a Marcus Trescothick.

Hefyd yn bresennol oedd y cyn chwaraewr rygbi rhynglwadol Gareth Edwards a'r cyn bocsiwr Nicky Piper.

Roedd y gwasanaeth yn agored i'r cyhoedd.

Ond dim ond rhai wedi eu gwahodd sy'n ymgynull yng Nghlwb Rygbi Pentyrch ar ôl yr angladd.

Mae'r teulu wedi gofyn iddyn nhw ddod â lluniau personol fel bod modd creu teyrnged ar ffurf darlun.

Dymuniad y teulu yw bod pobl yn cyfrannu rhoddion i Gronfa Er Lles Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol.

Ymchwiliad

Cafodd cwest i'r farwolaeth ei agor a'i ohirio tan Fedi 24.

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu wedi cyfeirio'r achos i Heddlu Llundain yn Scotland Yard.

Maen nhw wedi dweud bod dyn tebyg i Tom Maynard wedi rhedeg i ffwrdd o gar oedd yn cael ei yrru'n ansicr ac a gafodd ei atal tua 50 munud yn gynharach.

Cafodd y farwolaeth, sydd ddim yn cael ei thrin fel un amheus, ei chyhoeddi'r diwrnod wedi iddo fod yn chwarae i Surrey mewn gêm yn y gystadleuaeth T20 yn erbyn Caint.

Dywedodd ei rieni Matthew a Sue a'i chwaer Ceri eu bod yn ddiolchgar am yr holl gefnogaeth.

Mewn datganiad, dywedodd y teulu eu bod wedi derbyn cannoedd o gardiau, llythyrau a negeseuon dros yr wythnos ddiwethaf, a bod maint y gefnogaeth wedi bod o gysur gwirioneddol.

Cyn symud i Surrey roedd Tom Maynard yn chwarae i Forgannwg tan i'w dad Matthew - cyn gricedwr i Forgannwg a Lloegr - adael ei rôl fel hyfforddwr y clwb yn 2010.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.