Glaw yn llesteirio Morgannwg

Logo Morgannwg Image copyright Other

Doedd dim chwarae yn bosib rhwng Morgannwg a Swydd Gaerwrangon yng nghystadleuaeth 20/20 Friends Life yn Stadiwm Swalec ddydd Mawrth oherwydd y glaw.

Mae'r ddau dîm yn casglu pwynt yr un, sy'n golygu bod Morgannwg yn aros un safle o waelod y tabl.

Does dim gobaith i Forgannwg gyrraedd rownd yr wyth olaf nawr, er bod dwy gêm ar ôl, yn erbyn Gwlad yr Haf ddydd Gwener a Swydd Warwick ddydd Sul.

Doedd dim chwarae yn bosib rhwng Morgannwg a Swydd Gaerloyw yn yr un gystadleuaeth ddydd Llun oherwydd y glaw cyson ym Mryste.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.