Taclo troseddau ar y ffin

Mae dau lu heddlu o Gymru wedi dechrau cydweithio â dau lu o Loegr mewn ymdrech i atal troseddu ar hyd y gororau.

Bydd yr ymgyrch yn golygu bod Heddluoedd Gwent a Dyfed-Powys yn cydweithio â lluoedd Heddlu Swydd Gaerloyw a Gorllewin Mercia.

Bydd plismyn o Gymru yn cyd-lynu'n ddyddiol â'u cymheiriaid ar draws y ffin.

Byddant yn rhannu gwybodaeth ac yn cynnig help pan fydd ei angen.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dave Guiney o Heddlu Dyfed-Powys: "Nid yw troseddwyr yn ystyried ffiniau felly mae'n rhaid inni gyd-weithio i ddal troseddwyr."

Dywedodd Heddlu Gorllewin Mercia fod angen cydweithio â lluoedd eraill i ymateb i achosion mewn cymunedau oedd yn teimlo eu bod ar eu pen eu hun.

"Rydym am i'r ffiniau ddiflannu am fod y ffiniau'n anweledig o ran troseddwyr".

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.