Cystadleuwyr 2012: Brett Morse

Image copyright Getty Images
Image caption Bu Brett Morse yn cystadlu ym Mhencampwriaeth y Byd yn Daegu'r llynedd

Athletau - Taflu'r ddisgen

Ganwyd: Chwefror 11, 1989

Gan mai eleni yw blwyddyn gyntaf Brett Morse yng nghategori'r oedolion, mae'n dal i geisio gwneud ei farc wrth daflu'r ddisgen, ond mae ganddo reord dda fel cystadleuydd ifanc.

Yn 2007 a 2008 enillodd fedal aur ym Mhencampwriaeth dan-20 Lloegr, ac fe ddaeth mwy o lwyddiant wrth symud i'r categori dan-23.

Daeth medal aur ym Mhencampwriaeth y DU yn 2010, a medal efydd ym Mhencampwriaeth Cymru i oedolion yn yr un flwyddyn.

Gorffennodd yn chweched yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2010, a dyna oedd ei safle hefyd ym Mhencampwriaeth Timau Ewrop yn 2011.