Llwyddiant sied anarferol

Y sied Image copyright Geoff Hill
Image caption Mae 'r sied wedi'i gosod ar lwyfan sy'n arnofio yn iard gychod Frongoch, ger Aberdyfi.

Mae perchennog sied anarferol sydd wedi'i lleoli mewn iard gychod wedi methu yn ei ymdrech i ennill cystadleuaeth sied y flwyddyn 2012.

Roedd sied Geoff Hill, sy'n byw ger Machynlleth, drwodd i'r r wyth olaf wedi iddi ddod ar y brig yng nghategori sied fwyaf unigryw'r gystadleuaeth ym mis Mehefin.

Mae ei sied wedi'i gosod ar lwyfan sy'n arnofio yn iard gychod Frongoch, ger Aberdyfi.

Enillydd y gystadleuaeth oedd John Plumridge o'r Amwythig, wnaeth drawsnewid ei sied i dafarn.

'Gwneud rhywbeth twp'

Gosododd Mr Hill ei sied yn yr iard gychod yn ystod yr haf y llynedd.

Cafodd ei defnyddio fel lleoliad perfformio gan y comedïwr Arthur Smith yn ystod Gŵyl Gomedi Machynlleth ym mis Mai pan fu'n rhaid i'r gynulleidfa gael eu rhwyfo i'r man cyfarfod anarferol.

"Mae'r sied fel pob sied arall am ei bod yn cynnwys mainc, gwasg, nytiau a bolltau," meddai Mr Hill.

"Mae treulio amser yn y sied gan yfed paned o de yn angenrheidiol i gynnal ansawdd bywyd."

Dywedodd fod y sied wedi costio tua £1,000 i'w hadeiladu ac y byddai'n treulio'r haf ger Aberdyfi.

Ychwanegodd: "Gall bywyd fod yn gyffredin iawn os nad ydych chi'n ofalus, felly rwy'n ceisio gwneud rhywbeth twp bob blwyddyn."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.