Cyhuddo mam o lofruddio: Anfon rheithgor adre

Michelle Smith Image copyright Athena
Image caption Mae Michelle Smith yn gwadu llofruddio ei merch 42 ddiwrnod oed

Mae rheithgor achos mam o Dreforys ar gyhuddiad o lofruddio ei babi 42 ddiwrnod oed wedi cael eu hanfon adre.

Roedd Llys y Goron Abertawe wedi clywed bod doctoriaid wedi defnyddio grym wrth dynnu mam yn rhydd oddi wrth gorff ei babi oedd wedi marw.

Ac roedd Michele Smith yn ei dagrau wrth ddweud ei bod wedi erfyn yn daer ar ddoctoriaid i adael iddi ddal Amy.

Mae'r diffynnydd 33 oed wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac un arall o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn.

Cafwyd hyd i'r cyffur dihydrocodeine yng ngwaed ei merch Amy ar ôl archwiliad post-mortem.

Bu farw Amy ar Dachwedd 9, 2007, ar ôl cael ei chludo i'r ysbyty.

Bydd y rheithgor yn ailgynnull ddydd Iau.

Straeon perthnasol