Cynghrair Europa: Bangor 0-0 Zimbru Chisinau

Neville Powell
Image caption Bydd yr ail gymal ym Moldova ar Orffennaf 12

Daeth Bangor o fewn modfeddi i sicrhau eu buddugoliaeth Ewropeaidd gyntaf ym Mangor am 51 mlynedd, ond di-sgôr ydoedd yn y diwedd yn erbyn Zimbru Chisinau.

Rhwystrwyd blaenwyr Zimbru, Radu Catan ac Oleg Molla, gan arbedion da gan golwr Bangor Lee Idzi yn yr hanner cyntaf cyn i gic rydd Damien Allen fwrw'r trawst.

Fe wnaeth ymgais Chris Jones ar ran Bangor fwrw'r postyn, ac fe wnaeth yntau hefyd wastraffu cyfle munud olaf wrth benio yn syth at golwr Zimbru, Nicolae Calancea.

Bydd yr ail gymal ym Moldova ar Orffennaf 12.

Bangor: Idzi, Roberts, Brewerton, Johnston, Brownhill, Garside, Davies, Edwards, Allen, Simm, Smyth. Eilyddion: Clancy, Morley, Hoy, Jones, Bull, Williams, Owen.

FC Zimbru: Calancea, Balasa, Zastavnyi, Cuznetov, Korgalidze, Tumbasovic, Catan, Derkach, Barakhoev, Gorceac, Molla. Eilyddion:Paius, Erokhin, Gafina, Cucu, Slivca, Sischin, Iavorschi.

Dyfarnwr: Christos Nicolaides (Cyprus)

Straeon perthnasol