Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd yn dathlu 150 mlynedd

Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd Image copyright Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd
Image caption Mae Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd yn 150 oed

Mae Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych, yn dathlu carreg filltir arbennig yn ei hanes.

Dydd Sadwrn bydd yr ysgol gynradd yn 150 oed.

Bydd y diwrnod o ddathlu yn cychwyn gyda gwasanaeth byr yn Eglwys y Santes Fair am 1pm.

Yna fe fydd yna brynhawn o weithgareddau yn yr ysgol, yn cynnwys dangos fideo a grëwyd i gofnodi atgofion cyn-ddisgyblion.

Bydd gwaith celf yn cael ei arddangos hefyd gan artist lleol, Ann Bridges, fu'n cydweithio gyda phlant yr ysgol.

Yn ystod y dydd bydd y plant yn perfformio cân a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer yr ysgol gan Robat Arwyn a Dafydd Jones.

Dywedodd y prifathro, Llinos Hughes: "Mae'n ddiddorol nodi ei fod yn dweud ar y plac carreg ar y prif ffasâd 'Llanfair National School was erected in 1861 and enlarged in 1895'.

"Efallai nad yw'n syndod fod yr arysgrif yn gwbl Saesneg - fel y mae pethau wedi newi4d ers y dyddiau hynny.

"Mae'r ysgol yn awr yn falch o fod yn un o ddim ond pedair ysgol gynradd ddwyieithog yn y sir.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd llawer sydd â chysylltiadau, atgofion neu ddim ond chwilfrydedd am Ysgol Llanfair, yn ymuno â ni ar lwybr atgofion a gwneud hwn yn ben-blwydd arbennig i'w gofio."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.