Cystadleuwyr 2012: Gareth Warburton

Image copyright Getty Images
Image caption Bydd Warburton yn ymuno ag Andrew Osagie a Michael Rimmer ar gyfer y gystadleuaeth 800m

Athletau - 800m

Ganwyd: Ebrill 23, 1982

Yn wreiddiol ni chafodd Gareth Warburton ei gynnwys yn y Tîm.

Ond llwyddodd y rhedwr 30 oed i ennill ei apêl ac mae'n un o dri yn nhîm Prydain ar gyfer ras yr 800 metr.

Mae'r rhedwr o Gaernarfon wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2006 (Awstralia) a 2010 (India).

Daeth yn bumed yn Melbourne yn y 400 metr.

Yn Delhi daeth yn 4ydd yn y 800 metr a 6ed yn y ras gyfnewid 4 x 400 metr.