Cais i adnewyddu hen garchar

Carchar Abertawe Image copyright BBC news online
Image caption Cafodd y carchar ei adeiladu ym 1861

Mae'r awdurdodau yng ngharchar yn Abertawe yn dweud fod angen gwelliannau ac adnewyddu'r adeilad gafodd ei godi yn y 19eg ganrif am ei fod yn achosi peryg iechyd a diogelwch.

Maent wedi cyflwyno cais cynllunio i geisio atal mwy o ddirywiad o ran gwaith carreg yr adeilad rhestredig Gradd II.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys adfer cerrig sydd wedi llacio yn nifer o rannau o'r adeilad gan gynnwys ffasâd blaen y carchar.

Dywed y cynnig na fydd diogelwch y gymuned yn cael ei effeithio gan unrhyw waith adeiladu.

Cynghorwyr sir Abertawe fydd yn penderfynu ar y cais cynllunio.

Cafodd y carchar ei adeiladu ym 1861 ac roedd dynion a menywod yn cael eu cadw yno tan 1922 pan benderfynwyd symud carcharorion benywaidd i garchar Caerdydd.

Dywed y cynnig fod "gwaith carreg nifer o'r adeiladau wedi dirywio...sydd erbyn hyn yn achosi peryg iechyd a diogelwch os na fydd gwaith adfer yn cael ei gynnal yn syth".

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.