Morgannwg yn ennill eu gêm 20/20 olaf o'r tymor

Logo Morgannwg Image copyright Other

Curodd Morgannwg Swydd Warwick o 22 rhediad trwy ddull Duckworth-Lewis yn eu gêm olaf yng nghystadleuaeth T20 Friends Life yn Edgbaston ddydd Sul.

Sgoriodd Morgannwg 173 am bum wiced gan gynnwys 68 gan y batiwr o Awstralia, Shaun Marsh.

Bowliwr mwyaf llwyddiannus Swydd Warwick oedd Chris Wright a gipiodd ddwy wiced am 43 rhediad.

Cafodd batiad Swydd Warwick ei gwtogi i naw pelawd ar ôl i law amharu ar fatiad y tîm cartref.

Oherwydd hynny bu'n rhaid dibynnu ar reolau Duckworth-Lewis a tharged Swydd Warwick oedd 84 rhediad.

Llwyddodd y Dreigiau rwystro Swydd Warwick i 61 am bedair wiced gyda Morgannwg yn ennill o 22 rhediad.

Gwlad yr Haf, Swydd Caerloyw a Swydd Caerwrangon fydd yn mynd yn eu blaenau o grŵp Morgannwg i chwarae yn rownd yr wyth olaf.

Cafodd pump o ddeg gêm y Dreigiau yn y gystadleuaeth eleni eu gohirio oherwydd y glaw ac fe orffennodd Morgannwg yn y pumed safle gan ennill dim ond dwy gêm.

Morgannwg - 173 am 5 (20 pelawd)

Swydd Warwick- 61 am 4 (9 pelawd)

Morgannwgyn fuddugolo22 rhediadtrwy ddull Duckworth-Lewis

TABL PENCAMPWRIAETH T20
Sir Chwarae Ennill Colli Dim canlyniad Pwyntiau
1. Gwlad yr Haf 10 5 2 3 13
2. Sir Gaerloyw 10 4 2 4 12
3. Sir Gaerwrangon 10 4 3 3 11
4. Sir Warwick 10 4 3 3 11
5. Morgannwg 10 2 3 5 9
6. Sir Northants 10 1 7 2 4

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.