Hofrennydd yn achub cerddwr

Hofrennydd o'r Awyrlu yn y Fali yn hedfan dros Eryri
Image caption Hofrennydd o Ganolfan Awyrlu'r Fali yn hedfan dros Eryri

Cafodd dyn 28 oed ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl disgyn 30 troedfedd tra'n cerdded yr Wyddfa.

Credir bod y dyn wedi torri ei goes a'i arddwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i lwybr Pen y Gwryd bnawn Sadwrn.

Aed ag ef mewn hofrennydd y llu awyr o'r Fali i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Cafodd yr hofrennydd hefyd ei defnyddio i achub dyn oedd wedi mynd i drafferthion ar Grib Coch.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.