Cytundeb fferm wynt yn creu swyddi

Lori Image copyright Other
Image caption Mae rhannau o'r fferm wynt wedi cael eu cludo ar hyd yr A55 yn oriau man y bore

Bydd porthladd Mostyn yn Sir y Fflint yn cael ei ddefnyddio fel canolfan gan y cwmni sy'n codi fferm wynt ger Llandudno, gan greu nifer o swyddi.

Dywed cwmni Gwynt y Môr Offshore Windfarm y bydd o leiaf 100 o swyddi newydd o safon uchel yn cael eu creu yn y ganolfan newydd, ynghyd â mwy na 120 o swyddi ychwanegol wrth adeiladu'r ganolfan.

Daeth cadarnhad y llynedd mai Mostyn fydd yn cael ei ddefnyddio fel canolfan gynnal a chadw i bedair fferm wynt yn yr ardal - Bae Lerpwl, North Hoyle, Rhyl Flats a Gwynt y Môr pan fydd wedi ei chwblhau.

'Lle gwych'

Wrth gadarnhau'r penderfyniad, dywedodd cyfarwyddwr cynllun Gwynt y Môr, Toby Edmonds:

"Mae porthladd Mostyn wedi dangos ei fod yn lle gwych ar gyfer canolfan adeiladu dwy fferm wynt yn flaenorol, ac rydym wrth ein bodd yn dychwelyd er mwyn gosod tyrbinau Gwynt y Môr.

"Siemens Energy fydd yn cyflenwi 160 o'u tyrbinau 3.6 MW, ac fe fydd y cydrannau'n dechrau cyrraedd porthladd Mostyn yn gynnar yn 2013 a'u cadw yno yn barod i'w gosod yn eu lle."

Y buddsoddiad o £50 miliwn ym Mhorthladd Mostyn yw'r cytundeb mwyaf i gwmni yng Nghymru gan Gwynt y Môr, a dywedodd cyfarwyddwr porthladd Mostyn, Jim O'Toole:

"Mae'r cytundeb yma, ynghyd â'r penderfyniad blaenorol i sefydlu canolfan gynnal a chadw i'r ffermydd gwynt eraill yn gadarnhad pellach o'r berthynas fasnachol a ddechreuodd yn 2003.

"Yn ogystal â chreu cyfleoedd am swyddi crefftus ym mhorthladd Mostyn, bydd y cytundeb yma hefyd yn cynnig mwy o gyfleoedd i'r gadwyn gyflenwi ac yn cefnogi busnesau ar draws Gogledd Cymru."

Bydd Gwynt y Môr yn un o'r ffermydd gwynt mwyaf o'i fath yn Ewrop, ac mae'n bartneriaeth rhwng cwmnïau RWE Innogy, Stadtwerke München GmbH a Siemens.

Pan fydd wedi ei chwblhau, dywed cwmni Gwynt y Môr y bydd yn gallu cyflenwi ynni i tua 400,000 o gartrefi.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.